Prosiectau cymunedol
Beth sy'n digwydd yn eich cymdogaeth chi
Mae'n swnio'n amlwg, ond mae bod yn rhan o Gymru lwyddiannus yn golygu bod yn rhan o gymunedau lleol llwyddiannus. Dyna pam rydym yn gweithio'n galed i roi rhywbeth yn ôl.
Supergrounds ar gyfer ysgolion cynradd
Mae'r cynllun hwn yn ein rhoi yng nghalon cymunedau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio gydag ysgolion (a'u disgyblion) i'w helpu i ddatblygu mannau chwarae a dysgu gwych yn yr awyr iach.
Mae hon yn rhaglen gymunedol am chwe blynedd a £6m, ac er mwyn cael cyfle i ennill Dyfarniad Supergrounds, rhaid i'ch ysgol gael ei henwebu gan un o'n gweithwyr.
Ein partneriaid yn y cynllun Supergrounds ar gyfer ysgolion cynradd yw Dysgu drwy Dirweddau (yr elusen genedlaethol ar gyfer tir yr ysgol) a'r elusen amgylcheddol Groundwork.
Dillad pêl-droed i blant
Bob blwyddyn, mae gennym gynllun dillad pêl-droed ar gyfer plant yng Nghymru - a'r llynedd fe wnaethom ni roi cit i dros 60 o dimau.
Un o’r timau oedd tîm Pêl-droed dan 12 Pen-y-Bont ar Ogwr, diolch i waith Andrew Lewis Uwch Rheolwr Banc yng nghanol Caerdydd.
CricketForce
Gyda'r cynllun cymunedol hwn rydym yn cefnogi clybiau criced lleol yng Nghymru.
Mae'n gweithio trwy uno gwirfoddolwyr a busnesau lleol i wella cyfleusterau. Gallai hynny olygu unrhyw beth o rwydi neu geginau newydd, i ailbaentio'r clwb neu osod bocs sgorio newydd.
Llwyddodd CricketForce NatWest i ddenu 1500 clwb ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn 2009, 85,000 o wirfoddolwyr a thua £35-£40 miliwn o ran arian ac amser.
I gael gwybod mwy, anfonwch neges e-bost at natwestcricketforce@ecb.co.uk
Arian yn ôl i'r Gymuned
Bydd llawer o'n gweithwyr yn helpu grwpiau cymunedol, ysgolion neu elusennau trwy godi arian neu wirfoddoli.
Gall y gweithwyr hyn wneud cais am Ddyfarniad Arian yn ôl i'r Gymuned - gan godi unrhyw beth o £100 hyd at £1,000 ar gyfer eu cymdeithas.
Rhoi trwy’r gyflogres
Cyfrannodd gweithwyr NatWest yng Nghymru filoedd i elusen dan ein cynllun rhoi trwy’r gyflogres yn ystod 2008.
Ymhlith rhai o'r elusennau a elwodd roedd Barnardo's Cymru, Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru, Tenovus, a Thy Hafan.
O ffigurau a ddarparwyd gan y tîm Buddsoddi Cymunedol, ar sail codau post Cymru, NatWest yw un o gyflogwr sy’n cwrdd a chyfraniadau’r gweithwyr at elusen trwy Roi Wrth Ennill (GAYE). Am bob £1 a roddir gan ein staff o’u cyflog, byddwn yn cyfrannu £1 arall.
Cysylltwch
I gael gwasanaeth Cymraeg
Rhowch alwad i ni ar
01248 671222
Y llinellau ar agor: yn ystod yr wythnos 8am - 6pm Penwythnosau 9am - 4pm (ac eithrio gwyliau'r banc)