Newydd sbon

Bwrdd yr iaith gymraeg - Welsh language board

NatWest yn noddi cymorth i ysgrifennu yn Gymraeg

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau a sefydliadau yn gwybod fod angen iddynt ddefnyddio cyfieithydd proffesiynol i ymgymryd â gwaith mawr. Ond beth am y llond llaw yna o eiriau sydd i’w cyfieithu neu i’w prawf ddarllen ar frys?

Mae’r Llinell Gyswllt i’r Gymraeg wedi ei llunio er mwyn helpu pobl gyda’r math yma o destunau byr. Gall y Llinell Gyswllt gyfieithu hyd at 30 o eiriau a golygu hyd at 75 o eiriau yn ogystal â chyfieithu bwydlenni yn rhad ac am ddim. Bellach mae banc y NatWest yn noddi’r Llinell Gyswllt.

I gysylltu â’r Llinell Gyswllt ewch i www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/gwasanaethau/Pages/Gwasanaethcyfieithuamddim.aspx neu anfon e-bost at cyswllt@byig-wlb.org.uk neu ffonio 0845 607 6070.

Dywedodd Mark Douglas, Cyfarwyddwr Manwerthu Rhanbarthol NatWest dros Gymru:

“Mae NatWest wedi meithrin perthynas gynhyrchiol a chryf gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ers i ni lunio ein polisi iaith cyntaf yn ôl yn 2002. Rydym yn falch dros ben o gael ein cysylltu â gwasanaeth sy’n hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg . Gyda tua 19,000 o bobl yn defnyddio’r gwasanaeth y llynedd, mae’r Llinell Gyswllt eisoes o fudd i lawer, ac ar ôl elwa ar y gwasanaeth cyflym a dibynadwy hwn ein hunain, a hynny am ddim, rydym yn falch o argymell y Llinell Gyswllt i sefydliadau eraill yng Nghymru.”

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:

“Rydym yn ddiolchgar dros ben i’r NatWest am noddi’r Llinell Gyswllt. Mae’n adnodd gwerthfawr i fusnesau a grwpiau sydd eisiau cyfieithu neu olygu llond llaw o eiriau gyda sicrwydd o safon uchel ond heb fynd i gostau.”

Dywedodd Haf Elgar o Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Gan ein bod yn gweithio mewn maes lle mae technoleg a thermau yn newid yn aml mae gofyn am fathu termau neu ddefnyddio geirfa sy’n anghyfarwydd i’r cyhoedd. Mae cefnogaeth y Llinell Gyswllt yn amhrisiadwy i aelodau staff sy’n siarad Cymraeg cyn cyfweliadau teledu a radio ac ati. Mae aelodau o’r staff nad ydynt yn medru’r Gymraeg hefyd yn defnyddio’r Llinell Gyswllt yn aml ac mae’r rhif ffôn ar bob hysbysfwrdd yn y swyddfa.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyswllt NatWest: Emma Hughes 07799 470019
  2. Cyswllt Bwrdd yr Iaith: Meinir Jones 029 2087 8000 / 07977 219395.
  3. Yn ystod 2010-11, cafwyd18,887 o ymholiadau i’r Llinell Gyswllt (cynnydd o 4% ers 2009-10).



Cysylltwch

I gael gwasanaeth Cymraeg

Rhowch alwad i ni ar

Rhowch alwad i ni ar
01248 671222


Y gangen agosaf

Y llinellau ar agor: yn ystod yr wythnos 8am - 6pm Penwythnosau 9am - 4pm (ac eithrio gwyliau'r banc)