Newyddion
- NatWest yn penodi Cyfarwyddwr Adwerthol dros Gymru
- Hwb Ariannol i Ambiwlans Awyr Cymru
- Staff ar y llwybr i godi arian
NatWest yn penodi Cyfarwyddwr Adwerthol dros Gymru
Cafodd y Cymro Cymraeg Mark Douglas ei benodi’n Gyfarwyddwr Adwerthol dros Gymru a bydd yn cael ei gefnogi gan dîm newydd o 13 Uwch Reolwr Banc yn y canghennau.
Bydd cwmpasu Cymru gyfan fel hyn yn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y gefnogaeth leol sydd ei hangen arnynt gan NatWest ac mae’n arwydd pellach o ymrwymiad y Banc i’w gwsmeriaid, staff a’r gymuned leol. Mae cwsmeriaid yn mynd yn fwyfwy soffistigedig ac felly’n gofyn am wasanaeth sy’n fwy personol a lleol ar gyfer eu hanghenion penodol.
Bydd Mark yn gyfrifol am rwydwaith canghennau adwerthol NatWest sydd â 142 cangen a bydd yn arwain tîm o dros 1200 aelod o staff a fydd yn cynorthwyo a chefnogi cwsmeriaid gyda phob agwedd ar eu harian. Cafodd Mark ei eni yn ardal Castell-nedd ac yno mae’n byw o hyd. Mae ganddo dros 27 mlynedd o brofiad yn y byd bancio, y rhan fwyaf o hynny yn Rhanbarth De Cymru.
Dywedodd Mark Douglas: “Mae canolbwyntio ar Gymru fel hyn yn rhoi cyfle gwych i’n canghennau adwerthol weithio fel un tîm ar draws Cymru. Bydd yn golygu y gallwn roi gwasanaeth mwy cyson i’n cwsmeriaid, gan ddarparwr sy’n deall eu hanghenion a’r farchnad leol. Mae’r cyfleoedd sydd ynghlwm â’r swydd yn gyffrous iawn a bydd yn gyfle i adeiladu ar ein strategaeth i gyflwyno gwasanaeth a gwerth rhagorol i’n cwsmeriaid.”
Hwb Ariannol i Ambiwlans Awyr Cymru
Bu dros 50 aelod o staff Canolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid Adwerthol NatWest ym Mharc Menai ger Bangor wrthi’n brysur yn trefnu nifer o weithgareddau yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, gan gynnwys cymryd rhan mewn ras rafftio ar y Fenai. Yn sgîl ymdrechion pawb a fu’n cymryd rhan, llwyddwyd i godi cyfanswm o £2,025 ar gyfer yr elusen, sy’n cynnwys hwb gan NatWest trwy’r cynllun Arian yn ôl i’r Gymuned, i gefnogi staff sy’n rhan o weithgarwch codi arian a helpu yn y gymuned.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen Cymru gyfan sy’n rhoi gwasanaeth brys hanfodol yn yr awyr i bobl sy’n wynebu salwch neu niweidiau sy’n peryglu bywyd. Gan fod y boblogaeth yn wasgaredig a’r dirwedd yn amrywiol, mae llawer o bobl yng Nghymru yn byw mewn mannau anghysbell, ymhell oddi wrth wasanaeth damweiniau ac achosion brys. Hefyd, oherwydd problem gynyddol tagfeydd traffig a damweiniau mewn ardaloedd mwy trefol, gall fod oedi cyn y bydd unrhyw ambiwlans cyffredin yn gallu ymateb. Am y rhesymau hyn, y mae pobl yn cydnabod bod angen tri hofrennydd ar ddyletswydd 365 diwrnod y flwyddyn.
Rhaid i’r elusen godi dros £5 miliwn y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth. Yr elusen sy’n codi’r holl arian sydd ei angen i gynnal y gwaith o ddydd i ddydd, gyda phob tasg ar gyfartaledd yn costio £1200.
Ychwanegodd Dave Austin, Rheolwr Canolfan NatWest: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu codi dros £2,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru sy’n rhoi gwasanaeth gwerthfawr dros ben i bobl Cymru. Weithiau fydd rhywun ddim yn sylweddoli faint o’u hamser eu hunain a faint o ymdrech y bydd pobl yn ei roi tuag at bob math o achosion da yn eu cymunedau eu hunain. Felly, mae’n ymddangos yn hollol naturiol cael cynllun, fel Arian yn ôl i’r Gymuned, i gydnabod a helpu tuag at y cyfraniad hwn yn y gobaith y bydd yn annog eraill i wirfoddi i helpu pobl eraill.”
Staff o Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid Adwerthol NatWest gyda chynrychiolwyr o Ambiwlans Awyr Cymru.
Staff ar y llwybr i godi arian
Fe wnaeth tîm o staff NatWest o ganghennau yng Nghymoedd De Cymru gyfnewid eu dillad gwaith a stampiau til am siorts a helmedau seiclo yn ddiweddar, gan fentro ar Lwybr Taf i gymryd rhan mewn marathon noddedig ar gefn beiciau i godi arian ar gyfer yr elusen blant Barnardo’s a Hosbis Ty Gobaith / Hope House.
Uwch Reolwr Banc NatWest dros Gymoedd De Cymru, Mel Jones, feddyliodd am y syniad gan weld y byddai’n ysgogi ac apelio at drawstoriad da o’i staff ac ar yr un pryd yn cefnogi dwy Elusen sy’n agos at ei chalon hi a’i chydweithwyr.
Yn ystod y diwrnod, llwyddodd y tîm, gan gynnwys Mel, i gwblhau 25 milltir ar y Llwybr o Gastell Coch i Fae Caerdydd ac yn ôl, gan godi £2,000 tuag at yr Elusennau trwy gael eu noddi gan gydweithwyr, cyfeillion a’u teuluoedd.
Dywedodd Mel Jones, Uwch Reolwr Banc NatWest dros Gymoedd De Cymru: “Fe ges i a’m cydweithwyr amser hwyliog, blinedig a phleserus ar ran hyfryd o Lwybr Taf. Bu’n brofiad cofiadwy dros ben, yn enwedig gan i ni godi cymaint o arian i’r ddau achos teilwng.”
Staff o wahanol ganghennau ar draws Cymoedd De Cymru.
Cysylltwch
I gael gwasanaeth Cymraeg
Rhowch alwad i ni ar
01248 671222
Y llinellau ar agor: yn ystod yr wythnos 8am - 6pm Penwythnosau 9am - 4pm (ac eithrio gwyliau'r banc)