Croeso i Siarter Cwsmeriaid NatWest

Dod yn fanc mwyaf hwylus Prydain trwy 14 ymrwymiad

Mae hwn yn ymrwymiad o ddifrif ac rydym eisiau dweud wrthych sut byddwn yn ei gyflawni. Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, rydym wedi gwneud newidiadau penodol er mwyn gwella’r ffyrdd rydym yn helpu ein cwsmeriaid.

Ond rydym eisiau gwneud mwy na hynny.

Mae ein Siarter Cwsmeriaid yn seiliedig ar y pethau sy’n bwysig i chi. Rydym yn ymrwymo i wneud i’r pethau hynny ddigwydd. Dydyn ni ddim yn disgwyl cyflawni pob un ar unwaith, ac fe wyddom fod gennym waith i’w wneud, ond fe fyddwn yn agored ynghylch ein cynnydd.

Rydym yn ymrwymo i wneud bancio yn hawdd

1. Byddwn yn ymestyn yr oriau agor yn ein canghennau prysuraf

Erbyn diwedd 2010 bydd gennym dros 600 o ganghennau ar agor ar ddydd Sadwrn, a changhennau penodol a fydd yn agor yn fuan bob bore neu’n hwyr fin nos.

2. Byddwn yn ceisio gwasanaethu mwyafrif ein cwsmeriaid o fewn 5 munud yn ein canghennau

Eleni bydd gennym raglen newydd i gael llai o giw yn ein canghennau prysuraf gan sicrhau bod pob aelod o staff sydd ar gael yno’n gwasanaethu cwsmeriaid yn ystod cyfnodau prysur.

3. Byddwn yn rhoi gwasanaeth cyfeillgar, hwylus pryd bynnag y byddwch yn delio â ni

Ein nod yw cael 9 o bob 10 cwsmer yn dweud bod ein gwasanaeth yn hwylus.

4. Byddwn yn eich helpu i wneud y dewisiadau cywir i chi a’ch arian, trwy ddarparu cynhyrchion clir, amrywiol gyda nodweddion a chostau wedi’u hegluro’n syml

Bydd yr holl daflenni yn ein canghennau yn cael eu symleiddio a’u hailysgrifennu yn unol â sylwadau gan gwsmeriaid. Rydym hefyd yn cyflwyno rhaglen newydd i Adolygu Gwasanaeth Cwsmeriaid er mwyn ei gwneud hi’n haws i’n cwsmeriaid ddewis y cynnyrch mwyaf addas iddyn nhw.

5. Bydd gennym wasanaeth bancio 24/7 dros y ffôn

Mae ein canolfannau galwadau wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig ac fe gewch ddewis siarad â rhywun o gig a gwaed bob tro.

Rydym yn ymrwymo i’ch helpu pan fydd arnoch ein hangen

6. Byddwn yn gweithio gyda chi i’ch cadw’n ddiogel pan fyddwch yn bancio ar lein gyda ni

Rydym yn darparu meddalwedd diogelwch arbennig o safon uchel am ddim i’w ddefnyddio gan bawb sy’n bancio ar lein, ac rydym wedi cyhoeddi ein Haddewid Diogelwch Bancio Ar Lein newydd.

7. Byddwn yn eich helpu’n gyflym os bydd eich cerdyn debyd yn cael ei golli neu ei ddwyn a chithau angen mynediad at arian parod

Mae ein gwasanaeth arian parod mewn argyfwng ar gael i bob cwsmer os bydd eu cerdyn debyd yn cael ei golli neu ei ddwyn.

8. Byddwn yn parhau i fod yn fenthyciwr cyfrifol ac rydym yn ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd newydd o helpu

Nid ydym yn codi terfynau credyd y rhai sy’n cael trafferth gwneud ad-daliadau ar eu cerdyn credyd a byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau annibynnol i helpu pobl sy’n cael anawsterau ariannol. Byddwn hefyd yn cyflwyno tîm cefnogi un-pwrpas i helpu pobl sy’n mynd i drafferthion ariannol.

Rydym yn ymrwymo i gefnogi’r cymunedau ble’r ydym yn gweithio

9. Rydym yn addo aros ar agor i gynnal busnes os mai ni yw’r banc olaf yn y dref a byddwn yn ystyried amryw o ddewisiadau er mwyn sicrhau bod gwasanaeth bancio lleol ar gael

Rydym eisoes wedi nodi dros 100 o leoliadau ‘Olaf yn y Dref’ ble byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth bancio lleol.

10. Byddwn yn rhoi addysg ariannol i bobl ifanc trwy gyfrwng ein rhaglen MoneySense sydd wedi’i hachredu’n annibynnol

Yn 2010 byddwn yn cyflwyno 25,000 o wersi MoneySense mewn ysgolion.

11. Byddwn yn mynd ati’n weithredol i gefnogi’r gymuned leol ble’r ydym yn byw a gweithio

Byddwn yn gwneud hyn trwy greu cronfa gymunedol. Hefyd, fe wnawn ni gynnig diwrnod i ffwrdd i’n holl weithwyr gael gwneud gwaith gwirfoddol yn lleol gan anelu at ddarparu dros 15,000 o ddiwrnodau bob blwyddyn ar gyfer gwirfoddoli yn y gymuned.

Rydym yn ymrwymo i wrando

12. Byddwn yn datrys cwynion cwsmeriaid yn deg, cyson, a phrydlon

Ein nod yw cael 75% o gwsmeriaid yn fodlon â’r ffordd rydym wedi delio â’u cwyn.

13. Ddwywaith y flwyddyn, byddwn yn cyhoeddi’r cwynion mwyaf cyffredin

A byddwn yn ymdrechu i fynd i’r afael â’r achosion

14. Byddwn yn mynd ati’n weithredol i ofyn am eich barn a’ch awgrymiadau ynghylch sut gallwn helpu mwy

Byddwn yn lansio rhaglen newydd o’r enw Rhaglen Gwrando ar Gwsmeriaid er mwyn sicrhau bod ein staff, gan gynnwys Swyddogion Gweithredol, yn cael clywed yn uniongyrchol am anghenion a rhwystredigaethau ein cwsmeriaid.

A chi sydd i benderfynu

Bob 6 mis byddwn yn cyhoeddi adroddiad i chi gael gweld pa mor dda rydym wedi cyflawni ein hymrwymiadau a nodi unrhyw feysydd sydd angen eu gwella. Bydd yn cynnwys detholiad llawn o sylwadau gan gwsmeriaid hefyd.

Cysylltwch

I gael gwasanaeth Cymraeg

Rhowch alwad i ni ar

Rhowch alwad i ni ar
01248 671222


Y gangen agosaf

Y llinellau ar agor: yn ystod yr wythnos 8am - 6pm Penwythnosau 9am - 4pm (ac eithrio gwyliau'r banc)