Bancio yng Nghymru
Rhoi'r gwasanaeth rydych chi'n ei ddisgwyl
Beth ydych chi'n ei ddisgwyl gan eich banc? Mae gwasanaeth cyfeillgar, effeithlon a gwerth da am arian yn bwysig, wrth reswm. Ond, rydym ni wedi mynd gam ymhellach gyda'n hymroddiad i Gymru, gan ddangos ein gwir falchder wrth gynnal busnes yma.
Ein polisi iaith Gymraeg
Rydym yn cynnig gwasanaeth dwyieithog eang - rhan hanfodol o ddangos parch at ddiwylliant Cymru a chymunedau lleol.
Ac wrth gwrs, mae'r wefan Gymraeg hon yn gweithio ar y cyd â'n gwybodaeth ddwyieithog, arwyddion ac aelodau staff Cymraeg.
Gwasanaeth Cymraeg llawn i gwsmeriaid
Rydym eisiau ei gwneud hi'n hawdd i chi wybod pa rai o'n staff sy'n siarad Cymraeg.
Felly pan ewch i gangen, fe sylwch fod y staff Cymraeg yn gwisgo bathodyn enw corfforaethol gyda logo 'Iaith Gwaith' Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
A yw bancio dros y ffôn yn haws i chi? Mae canolfan gwasanaeth i gwsmeriaid Menai yn rhoi'r gwasanaeth Cymraeg cyflawn rydych yn chwilio amdano.
Mae'r ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener - 8am tan 6pm, a dydd Sadwrn - 9am tan 4pm.
* Gallwn recordio galwadau.
** Cyfleusterau credyd: pobl dros 18 yn unig
Cangen symudol De Cymru
Ydych chi'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Castell-nedd, Port Talbot, y Rhondda neu ym Mhowys?
Mae ein banc symudol yn cynnig dewis llawn o wasanaethau bancio personol, gan gynnwys talu biliau, newid sieciau a hyd yn oed archebu arian tramor.
Ac os bydd arnoch angen cael gair ag un o'n timau arbenigol - er enghraifft, i drefnu morgais - gallwch ddefnyddio'r ffôn yn y cerbyd i wneud yr alwad.
Wrth gwrs, mae'r banc symudol yn gwbl addas ar gyfer pobl anabl - mae lifft ar gyfer cadeiriau olwynion a dolen anwytho sain.
Cysylltwch
I gael gwasanaeth Cymraeg
Rhowch alwad i ni ar
01248 671222
Y llinellau ar agor: yn ystod yr wythnos 8am - 6pm Penwythnosau 9am - 4pm (ac eithrio gwyliau'r banc)